Derwyddon Cefn 1–0 Met Caerdydd                                          

Derwyddon Cefn a fydd pedwerydd cynrychiolydd Uwch Gynghrair Cymru yn Ewrop y tymor nesaf wedi iddynt drechu Met Caerdydd yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cynghrair Ewropa brynhawn Sul.

James Davies a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i’r tîm cartref fynd â hi ar y Graig ac ennill gêm a fydd werth €220,000 i’r tîm o Gefn Mawr, Wrecsam.

Y Derwyddon a oedd y tîm gorau o bell ffordd yn yr hanner cyntaf ac roedd angen arbediad dwbl da gan Will Fuller i atal James Davies ac Alec Mudimu rhag rhoi’r tîm cartref ar y blaen wedi deg munud.

Roedd Davies yn ei chanol hi eto pan yr aeth y Derwyddon ar y blaen bum munud yn ddiweddarach. Gwnaeth Arek Piskorski’n dda ar ochr dde’r cwrt cosbi ac er i Emlyn Lewis roi ei gorff o flaen cynnig gwreiddiol Davies, fe rwydodd y blaenwr ar yr ail gyfle.

Wnaeth Met ddim cynnig llawer ar wahân i ambell dafliad hir bygythiol, ac un o’r rheiny a arweinodd at foli grefftus Rhydian Morgan o ongl dynn a orfododd arbediad da iawn gan Michael Jones yn y gôl i’r Derwyddon.

Cafodd Davies gyfle da i ddyblu mantais ei dîm chwarter awr cyn yr egwyl ond ergydiodd yn syth at Fuller o wyth llath.

Ac er i’r Derwyddon reoli’r 45 munud cyntaf fe ddylai Met fod wedi bod yn gyfartal wrth droi ond fe anelodd Eliot Evans gyfle euraidd dros y trawst ym munudau olaf yr hanner.

Roedd y myfyrwyr o’r brifddinas yn well wedi’r egwyl ond prin iawn a oedd cyfleoedd clir mewn gwirionedd wrth i Neil Ashton a Nathan Peate ymdopi’n gymharol gyfforddus yng nghanol amddiffyn y Derwyddon.

Dal eu gafael a wnaeth Cefn felly gan olygu mai tîm Huw Griffiths fydd yn ymuno â’r Bala a Chei Connah yng Nghynghrair Ewropa’r tymor nesaf. Y Seintiau Newydd, wrth gwrs, fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr.

.

Derwyddon Cefn

Tîm: Jones, Arsan, Peate, Owen, Mudimu, Pritchard, Davies, Burrows, Hajdari, Piskorski (Ruane 67’), Ashton

Gôl: Davies 16’

Cardiau Melyn: Burrows 1’, Owen 51’, Arsan 70’, Ashton 79’, Pritchard 90+1’

.

Met Caerdydd

Tîm: Fuller, McCarthy, Lewis, W. Evans (Howell 88’), Roscrow, Corsby, Lam, Edwards, E. Evans (Spencer 74’), Sindlehurst (Baker 50’), Morgan

Cerdyn Melyn: Roscrow 41’

.

Torf: 779