Mae gêm sy’n werth €220,000 a thocyn i Ewrop i’r enillwyr yn cael ei chynnal  heddiw ar y Graig yn Rhosymedre, wrth i Dderwyddon Cefn wynebu Met Caerdydd i sicrhau lle yng Nghynghrair Ewropa tymor nesaf.

Mae’r Derwyddon wedi cael tymor i’w gofio wrth orffen yn y chwech uchaf, ac maen nhw 90 munud i ffwrdd o Ewrop.

Rheolwr a chwaraewr y mis

Roedd Ebrill yn allweddol i dîm Huw Griffiths gyda buddugoliaethau yn erbyn Met a Cei Connah ac mae’r rheolwr, a’r chwaraewr Arek Piskorski wedi cael eu henwebu ar gyfer Rheolwr y Mis a Chwaraewr y Mis.

Dyma’r pumed tro i’r timau gyfarfod y tymor hwn, gyda’r Derwyddon wedi ennill dau a cholli un, ac un gêm wedi gorffen yn gyfartal.

Dydi’r Derwyddon ddim wedi chwarae ers tair wythnos ond mae Met Caerdydd yn barod, yn enwedig ar ôl curo’r Barri’r wythnos ddiwethaf o 4-1. Ond mae Huw Griffiths wedi bod yn brysur gyda’i garfan yn ymarfer yn galed am y gêm fawr.

Pa bynnag dîm sy’n ennill byddan nhw’n ymuno â’r Bala a Chei Connah a thimau o Andorra, Gibraltar, San Marino, Malta, Kosovo a  Lithwania yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Ewropa 2018/19.

Ar ôl y siom o golli yn y ffeinal y tymor diwethaf yn erbyn Bangor, bydd Met Caerdyddyn gobeithio mynd gam ymhellach, a bydd eu rheolwr Christian Edwards yn gobeithio arwain y myfyrwyr i Ewrop am y tro cyntaf yn ei hanes.

Mae’r gêm yn  fyw ar Sgorio am 12.25pm.