Mae Carlos Carvalhal wedi gadael Abertawe yn dilyn cwymp y clwb i’r Bencampwriaeth.

Cafodd y rheolwr o Bortiwgal ei gyflogi ym mis Rhagfyr 2017, yn dilyn diswyddo Paul Clement, ar gytundeb tan ddiwedd y tymor – ond roedd opsiwn i ymestyn y cytundeb hwnnw.

Yn ôl Cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, “roedd o fudd” i’r clwb a’r rheolwr “symud i gyfeiriad newydd”.

“Hoffem ddweud diolch i Carlos am ei asbri, ei waith caled a’i ymrwymiad ers iddo gyrraedd ym mis Rhagfyr,” meddai Huw Jenkins.