Ar ôl saith tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr, mae Abertawe yn wynebu cyfnod o ansicrwydd ar ôl disgyn i’r Bencampwriaeth.

Mae’r Cadeirydd, Huw Jenkins, yn amhoblogaidd â’r cefnogwyr ar ôl iddo werthu’r clwb i’r Americanwyr Jason Levien a Steve Kaplan yn 2016.

Roedd wedi datgan y byddai’n ystyried gadael pe bai’r Elyrch yn disgyn i’r Bencampwriaeth – ond mae yna sôn ei fod, yn hytrach, ar fin gwneud tro pedal ac aros i geisio gwneud yn iawn am ei gamgymeriadau.

Pe bai’n aros, mi fyddai’n sicr yn hollti barn y cefnogwyr.

Felly, sut le ydi’r dyfodol i glwb yr Elyrach?

Gweledigaeth

“Mae nifer  o gefnogwyr wedi anghofio’r gwaith da wnaeth Jenkins dros y blynyddoedd. Mae’n rhaid cofio hyn,” meddai Mei Emrys, cefnogwr Abertawe wrth golwg360.

“Rŵan rydan ni’r cefnogwyr angen gwybod beth ydy gweledigaeth y clwb. Rwyf yn wir meddwl roedd disgyn i’r bencampwriaeth ar  y cardiau ers tua thri thymor. Ac i fod yn onest mae’n teimlo fel dipyn o ryddhad bod o wedi digwydd.

“Yn lle newid rheolwr bob chwe mis a gwario a thalu cyflogau hurt i chwaraewyr canolig, bydd yn well eistedd nôl a dadansoddi’r sefyllfa ac ail adeiladu yn araf.

“Fy hun, faswn i wrth fy modd yn gweld cyn-reolwr Cymru, Chris Coleman, yn cymryd y swydd. Dw i ar ddeall bod o wedi deud ’na, nefar, byth’ ond, rydan i gyd yn gwybod sut mae’r byd pêl-droed yn gweithio.

“Mi fydd hefyd yn gyfle i Connor Roberts sefydlu ei hun yn y Bencampwriaeth… i fod yn onest, un o’r pethau positif i Abertawe y tymor diwethaf.”

Dim yn ddiwedd y byd

“Dydi hi ddim yn ddiwedd y byd yn y Bencampwriaeth,” meddai Mei Emrys. “Cytuno neu beidio, mae’r taliad parasiwt yn mynd i fod yn help – dim ond ei fod o’n cael ei wario’n iawn.

“Y tristwch mwyaf ydi gweld yr arwr, Leon Britton, yn ymddeol. Mi fydd yn golled fawr i’r garfan, gwr bonheddig, a dw i’n synnu gyda’r penderfyniad i ryddhau Àngel Rangel – dw i’n sicr, gyda’i brofiad a’i angerdd at y clwb, fe allai o fod yn gymorth y tymor nesa’.”