Abertawe 1–2 Stoke                                                                          

Daeth cadarnhad mai yn y Bencampwriaeth y bydd Abertawe’n chwarae’r tymor nesaf wedi iddynt golli yn erbyn Stoke ar y Liberty ar Sul olaf y tymor.

Roedd angen buddugoliaeth swmpus ar yr Elyrch os am unrhyw obaith o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr, ond nid felly y bu wrth i’r ymwelwyr daro nôl i ennill y gêm wedi i gôl gynnar Andy King roi llygedyn o obaith i’r Cymry.

Aeth Abertawe ar y blaen o fewn chwarter awr pan fanteisiodd King ar amddiffyn gwael Stoke i agor y sgorio.

Parhau i reoli a wnaeth yr Elyrch wedi hynny cyn i Stoke sgorio yn gyfan gwbl yn erbyn llif y chwarae chwarter awr cyn yr egwyl, Badou Ndiaye yn gorffen yn daclus wedi pas dreiddgar Xherdan Shaqiri.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Abertawe ddeg munud yn ddiweddarach wrth i Peter Crouch benio i gefn y rhwyd o gic rydd Lasse Sorenson ar y chwith.

Dylai Shaqiri fod wedi ymestyn mantais yr ymwelwyr yn gynnar yn yr ail hanner ond cafodd ei gic o’r smotyn ei harbed gan Lukasz Fabianski wedi llawiad Martin Olsson yn y cwrt cosbi.

Abertawe a oedd y tîm gorau wedi hynny ond doedd dim gôl i fod diolch i berfformiad cadarn gan Jack Butland yn y gôl i Stoke.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Abertawe’n gorffen y tymor yn y deunawfed safe gyda 33 pwynt, ac yn disgyn i’r Bencampwriaeth wedi saith tymor yn yr adran uchaf.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, van de rHoorn, Olsson, Dyer (Clucas 68’), King (Britton 58’), Carroll, Routledge (Abraham 57’), A. Ayew, J. Ayew

Gôl: King 14’

Cerdyn Melyn: van der Hoorn 36’

.

Stoke

Tîm: Butland, Bauer, Shawcross, Zouma, Pieters, Allen (Fletcher 8’), Sorenson (Ireland 76’), Ndiaye, Shaqiri, Crouch, Diouf

Goliau: Ndiaye 31’, Crouch 41’

Cardiau Melyn: Crouch 56’, Bauer 66’

.

Torf: 20,673