Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal wedi amddiffyn ei record ers iddo gael ei benodi ddiwedd mis Rhagfyr – er bod y tîm ar fin gostwng i’r Bencampwriaeth.

Fe fydd rhaid i’r Elyrch wyrdroi gwahaniaeth goliau sylweddol er mwyn aros yn Uwch Gynghrair Lloegr am dymor arall wrth iddyn nhw herio Stoke ar ddiwrnod ola’r tymor brynhawn yfory.

Mae adroddiadau na fydd cytundeb y rheolwr yn cael ei adnewyddu wrth iddo ddod i ben ar ôl y gêm – ond mae Carlos Carvalhal yn mynnu nad oes penderfyniad ar ei ddyfodol hyd yn hyn, a bod disgwyl i drafodaethau gael eu cynnal ddechrau’r wythnos nesaf.

Wrth amddiffyn canlyniadau’r tîm eleni, dywedodd y gallai’r Elyrch fod wedi cymhwyso ar gyfer Ewrop pe baen nhw wedi cael hanner cyntaf tebyg i’r tymor.

“Ry’n ni wedi gwneud gwaith da iawn gydag 20 pwynt o 17 o gemau. Mae’n wyrth, a dydyn ni ddim yn bell iawn oddi wrth berfformiadau timau yng Nghynghrair Europa os gwnewch chi hynny drwy gydol y tymor.

“Pe baen ni wedi cael y tymor cyfan, dw i’n sicr y byddai wedi bod yn wahanol. Dw i ond yn siarad am y ffeithiau ac roedd ein llwybr yn un da. Pe baen ni wedi parhau ar y llwybr hwnnw, bydden ni’n brwydro am [le yn] Ewrop.”

Chwalu

Ond y gwirionedd yw fod Abertawe ar fin gostwng i’r Bencampwriaeth ar ôl saith mlynedd yn y brif adran – ac mae nifer o ffactorau wedi cyfrannu at eu methiannau diweddar.

Carlos Carvalhal yw’r pumed rheolwr parhaol ers 2014, ac mae bwrdd y clwb, gan gynnwys y perchnogion Americanaidd Jason Levien a Steve Kaplan wedi’u cyhuddo o lu o benderfyniadau sydd wedi niweidio’r clwb.

Diffyg buddsoddi mewn chwaraewyr da yw un o’r prif gwynion, ac mae’n ymddangos bod yr Elyrch wedi colli eu dull nodweddiadol o chwarae sydd wedi denu sylw iddyn nhw ar draws y byd.

Mae’r cadeirydd Huw Jenkins hefyd dan y lach am werthu cyfrannau i’r Americanwyr, ac fe fu cryn bwysau arno ers wythnosau, os nad misoedd, i ymddiswyddo.

Ac wrth i dynged yr Elyrch gael ei selio’r wythnos hon, daeth y newyddion am ymddeoliad Leon Britton ac ymadawiad capten y clwb, Angel Rangel.

‘Anodd’

Wrth ymateb i hynt a helynt y clwb, dywedodd Carlos Carvalhal: “Mae wedi bod yn anodd iawn, iawn i’r clwb i gyd, y chwaraewyr, y cefnogwyr a’r ddinas gyfan. Dw i’n drist iawn.

“Mae’r chwaraewyr, y cadeirydd, y buddsoddwyr a finnau i gyd yn gyfrifol. Os ydych chi’n gofyn i fi a allwn i fod wedi gwneud mwy, gallaf ddweud fy mod i wedi cyrraedd yr eithaf ac roedd agwedd y chwaraewyr yn wych.

“Fe aethon ni ar lwybr da gyda’n gilydd ond y broblem oedd 13 o bwyntiau o’r 20 gêm gyntaf. Dw i ddim eisiau beirniadu’r boi cyn fi, ond mae hynny’n ffaith.”

Paul Clement oedd y rheolwr blaenorol, ac fe gafodd ei ddiswyddo wrth i’r Elyrch orffen y flwyddyn ar waelod y tabl. Ers hynny, roedd Carlos Carvalhal wedi’u codi i ganol y tabl ar ôl rhediad annisgwyl o ganlyniadau.

Ond maen nhw heb fuddugoliaeth bellach ers curo West Ham o 4-1 ym mis Mawrth.

Y dyfodol

Er bod Carlos Carvalhal yn mynnu i’r gwrthwyneb, mae’n ymddangos bod ei gyfnod wrth y llyw yn dirwyn i ben – ac fe fynegodd ei ddicter bod stori wedi’i rhyddhau i’r wasg am ei ymadawiad yr wythnos hon.

Mae lle i gredu bod y clwb yn ystyried penodi cyfarwyddwr pêl-droed uwchlaw’r prif hyfforddwr wrth iddyn nhw geisio ailstrwythuro’r tîm hyfforddi.

Y ffefryn i gael ei benodi ar hyn o bryd yw rheolwr Ostersunds, y Sais Graham Potter, ac mae enw cyn-reolwr Cymru, Chris Coleman hefyd wedi cael ei grybwyll.

Mae disgwyl i’r cefnogwyr brotestio yn erbyn y perchnogion a’r cadeirydd yn ystod 28ain munud y gêm sy’n dechrau am 3 o’r gloch yfory.