Mae adroddiadau’n awgrymu y bydd rheolwr clwb pêl droed Abertawe, Carlos Carvalhal, yn ildio’r awenau ar ddiwedd y tymor hwn.

Wedi wyth gêm heb yr un fuddugoliaeth – gan gynnwys gêm 1-0 i Southampton ddydd Mawrth – mae’n edrych yn debygol y bydd yr Elyrch yn disgyn o Uwch Gynghrair Lloegr.

Er mwyn aros yn y gynghrair, bydd yn rhaid i’r clwb guro Stoke ddydd Sul nesaf (Mai 13), gan ddibynnu ar  Manchester City  i guro Southampton mewn gêm arall, gan gau bwlch o ddeg o ran gwahaniaeth goliau.

Mae Press Association Sports yn deall nad yw bwrdd clwb Abertawe am adnewyddu cytundeb Carlos Carvalhal.

Profodd y rheolwr dipyn o lwyddiant pan ddechreuodd wrth y llyw, ac mi gurodd yr Elyrch cyfres o glybiau gan gynnwys Lerpwl ac Aresenal. Ond, ers hynny mae pethau wedi dirywio.

Bydd yn cynnal cynhadledd â’r wasg ddydd Gwener (Mai 10) lle fydd cwestiwn am ei ddyfodol â’r clwb yn sicr o godi.