Carlisile 1–1 Casnewydd                                                                  

Gorffennodd Casnewydd y tymor yn hanner uchaf yr Ail Adran wedi gêm gyfartal yn erbyn Carlisle yn Brunton Park brynhawn Sadwrn.

Aeth Carlisle ar y blaen wedi llai na chwarter awr gyda pheniad Mark Ellis o groesiad Danny Grainger.

Roedd yr ymwelwyr o Gymru’n gyfartal saith munud cyn yr egwyl diolch i beniad arall, Padraig Amond yn rhwydo o groesiad Robbie Willmott.

Ni ychwanegywd at y sgôr yn yr ail hanner wrth iddi orffen yn gôl yr un a phwynt yr un, canlyniad sy’n eu gadael yn yr unfed safle ar ddeg yn y tabl ar ddiwedd y tymor, tymor llawer gwell na’r diwethaf.

.

Carlisle

Tîm: Bonham, Liddle, Ellis, Hill (Lambe 74’), Grainger (Parkes 45’), Devitt, Joyce, Jones, Campbell-Ryce (O’Sullivan 61’), Bennett, Nadersan

Gôl: Ellis 14’

.

Casnewydd

Tîm: Day, O’Brien (Collind 58’), Tozer, Demetriou, Butler, Willmott, Dolan, Sheehan (Touray 79’), Reid, Amond (Pipe 90+1’), Nouble

Gôl: Amond 38’

Cerdyn Melyn: Willmott 78’

.

Torf: 5,311