Chesterfield 1–0 Casnewydd                                                         

Colli fu hanes Casnewydd wrth deithio i Stadiwm Proact nos Fawrth i wynebu Chesterfield yn eu gêm olaf ond un o’r tymor yn yr Ail Adran.

Roedd un gôl ail hanner yn ddigon i’r tîm ar waelod y tabl i drechu’r ymwelwyr o Gymru.

Bu bron i Padraig Amond roi Casnewydd ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond cafodd ei gynnig ei glirio oddi ar y llinell.

Golygodd hynny bod peniad Kristian Dennis o groesiad Louis Dodds ugain munud o’r diwedd yn ddigon i’w hennill hi i’r tîm cartref.

Mae’r canlyniad yn gadael Casnewydd yn unfed ar ddeg yn y tabl gydag un gêm ar ôl yng Nghaerliwelydd ddydd Sadwrn.

.

Chesterfield

Tîm: Ramsdale, Talbot, Nelson (Whitmore 42’), Maguire, Binnom-Williams, Barry, Kellett (Brown 45’), Reed, Dodds, Dennis, Smith (Weir 45’)

Gôl: Dennis 71’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Reid, Whitem Demetriou, Butler, Willmott, Dolan, Sheehan (Jahraldo-Martin 75’), Collins (Jackson 61’), Amond, Nouble (Hayes 83’)

Cerdyn Melyn: White 53’

.

Torf: 4,608