Derwyddon Cefn 2–0 Cei Connah                                                

Gorffennodd Derwyddon Cefn yn bumed yn Uwch Gynghrair Cymru ar ôl curo Cei Connah ar y Graig nos Wener.

Sgoriodd Owen a Davies yn yr hanner cyntaf wrth i’r tîm cartref gamu dros Met Caerdydd yn y tabl ar benwythnos olaf y tymor arferol i roi eu hunain mewn sefyllfa gref yn y gemau ail gyfle Ewropeaidd.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond chwe munud, Matty Owen yn sgorio gydag ergyd isel gywir o ugain llath wedi sodliad deheuig Michael Pritchard i’w lwybr.

Cei Connah a gafodd y gorau o’r cyfleoedd wedi hynny ond dyblodd y Derwyddon eu mantais ym munud olaf yr hanner cyntaf gydag gôl unigol dda, James Davies yn taro’r bêl trwy goesau Mike Pearson cyn curo John Danby yn y gôl.

Cafodd Cei Connah ddigon o’r tir a’r meddiant wedi’r egwyl hefyd ond roeddynt yn wastraffus o flaen gôl. Rhoddodd Kai Edwards un peniad rhydd yn syth at Michael Jones yn y gôl ac anelodd Andy Owens un arall heibio’r postyn.

Daliodd Derwyddon Cefn eu gafael yn gymharol gyfforddus wedi hynny a rhoddwyd halen ym mriw y Nomadiaid yn yr eiliadau olaf wrth i Callum Morris golli ei ben yn llwyr a chael ei anfon oddi ar y cae.

Nid oedd y Derwyddon yn poeni fawr ddim am hynny achos roedd eu tri phwynt hwy, ynghŷd â gêm gyfartal Met Caerdydd yn erbyn y Seintiau, yn golygu bod tîm Huw Griffiths yn gorffen y tymor arferol yn bumed yn y tabl.

Bydd hynny’n golygu gêm gynderfynol gartref yn erbyn Met yn y gemau ail gyfle Ewropeaidd os yw Aberystwyth yn ennill Cwpan Cymru, neu llwybr yn syth i’r rownd derfynol os yw Cei Connah’n codi Cwpan Cymru.

.

Y Derwyddon

Tîm: Jones, Arsan, Peate, Owen, Mudimu, Pritchard, Davies, Simpson, Burrows, Hajdari, Piskorski (Taylor 88’)

Goliau: Owen 6’, Davies 45’

Cardiau Melyn: Burrows 68’, Piskorski 76’, Pritchard 82’

.

Cei Connah

Tîm: Danby, Pearson, Edwards, Spittle, Harrison, Morris, Wilde, Owens, Smith, Bakare, Hughes (Woolfe 60’)

Cerdyn Melyn: Hughes 58’

Cerdyn Coch: Morris 90

.

Torf: 351