Derby 3–1 Caerdydd                                                                         

Collodd Caerdydd gyfle i gymryd cam mawr tuag at Uwch Gynghrair Lloegr wrth golli oddi cartref yn erbyn Derby yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Roedd gan yr Adar Gleision gyfle i roi golau dydd rhyngddynt eu hunain a Fulham yn y trydydd safle gyda’r gêm wrth gefn hon ond pwynt yn unig sydd yn gwahanu’r ddau dîm o hyd wedi i dîm Neil Warnock ildio gôl o fantais wrth golli yn Pride Park.

Y tîm cartref a ddechreuodd orau ond yr ymwelwyr o dde Cymru a aeth ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae gyda foli wych Callum Paterson o groesiad hir Joe Bennett.

Fe allai Caerdydd fod wedi cael cic o’r smotyn wedi hynny am drosedd ar Gary Madine ond cadwodd y dyfarnwr ei chwiban allan o’i geg ac un gôl yn unig a oedd ynddi wrth droi.

Felly yr arhosodd hi tan hanner ffordd trwy’r ail hanner ond gwnaeth Caerdydd lanast llwyr ohoni gydag amddiffyn gwarthus tua diwedd y gêm.

Cafodd Cameron Jerome y gorau o ddau amddiffynnwr a’r golwr, Neil Etheridge, i unioni’r sgôr cyn i Matej Vydra roi’r tîm cartref ar y blaen wyth munud o ddiwedd y naw deg wedi i Yanic Wildschut gyflwyno’r meddiant i’r gwrthwynebywr yn ei gwrt cosbi ei hun.

Ac roedd y tri phwynt yn ddiogel i Derby wedi i Jerome fanteisio at gamgymeriad gan Sean Morrison i rwydo’i ail o’r gêm yn erbyn ei gyn glwb.

Mae Caerdydd yn aros yn yr ail safle holl bwysig yn y tabl er gwaethaf y golled ond pwynt yn unig sydd yn eu gwahanu hwy a Fulham sydd yn drydydd gyda dwy gêm yr un yn weddill.

Ac o ystyried diewddglo cryf Fulham i’r tymor mae’n bur debyg y bydd angen i’r Adar Gleision ennill eu dwy gêm olaf, oddi cartref yn erbyn Hull ac adref yn erbyn Reading.

.

Derby

Tîm: Carson, Keogh, Davies, Forsyth, Wisdom, Huddlestone, Johnson, Olsson (Vydra 60’), Weimann (Pearce 88’), Jerome (Hanson 88’), Lawrence

Goliau: Jerome 69’, 90’, Vydra 82’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Paterson, Gunnarsson, Ralls, Ward (Wildschut 74’), Hoilett (Pilkington 74’), Madine (Zohore 67’)

Gôl: Paterson 28’

Cardiau Melyn: Paterson 11’, Ecuele Manga 53’, Bennett 66’, Ralls 70’

.

Torf: 30,294