Ar ôl tymor llawn gobaith, mae cefnogwyr Wrecsam, fwy na thebyg, yn wynebu tymor arall yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr.

Roedd y Dreigiau ar un adeg ar frig y tabl, ond ar ôl i Dean Keates adael er mwyn cymryd yr awenau gyda chlwb Walsall, dydyn nhw ddim ond wedi llwyddo i gael chwe phwynt allan o bedwar ag ugain…  a phedair colled o’r pum gêm ddiwethaf.

Hyd yn oed cyn gemau neithiwr (nos Lun, Ebrill 23) roedd Ebsfleet a Bromley wedi’i gwneud hi’n annhebygol y byddai’r Dreigiau’n cyrraedd y gemau ail-gyfle,  ar hyn o bryd maen nhw yn y ddegfed safle gydag AFC Fylde yn dod i’r Cae Ras brynhawn Sadwrn (Ebrill 28).

Hynod o siomedig

“Dw i yn hynod o siomedig gyda’r sefyllfa,” meddai hyfforddwr y tîm cyntaf, Carl Darlington, wrth golwg360.

“Mi wnaeth Dean (Keates) adael y clwb ym mis Mawrth i ymuno á’i glwb cartref… alla i ddim gweld bai arno am hynny, achos ges i’r cynnig i ddod yn ôl i fan hyn, fy nghlwb cartref, felly dw i’n deall ei benderfyniad.

“Pan adawodd Dean, mi symudodd Andy Davies i fod yn rheolwr, a Stephen Wright yn is-reolwr… mi benderfynon ni beidio gwneud unrhyw newidiadau i’r ffordd oeddan ni’n ymarfer, roedd y chwaraewyr yn hapus efo hyn, ond yn anffodus roedd y canlyniadau’n wael.

“Dw i hefyd o’r farn ein bod ni wedi bod yn anlwcus ar adegau,” meddai Carl Darlington wedyn. “Roedd Woking oddi cartref yn berfformiad da iawn, fel oedd y perfformiad diweddar gartref yn erbyn Dagenham.

“Y gêm rwystredig wnaeth amharu ar y chwaraewyr oedd Eastleigh oddi cartref. Roedden ni’n ennill 1-0 pan wnaethon ni ildio gôl hwyr, ac roedd hynny’n ergyd i ni. Hefyd wrth edrych yn ôl, mae’n bosib fod ymadawiad Dean wedi cael mwy o effaith ar y chwaraewyr nag oedden ni’n feddwl.

“Rydan ni fel tîm hyfforddi yn teimlo ein bod ni wedi rhoi bob dim, mae Andy (Davies)  gyda’r clwb ers 25 mlynedd, rydan i gyd yn brifo ac yn deall rhwystredigaeth y cefnogwyr.”

“Dw i isio aros”

“Cynllun dwy flynedd oedd gan Dean, mae nifer o’r chwaraewyr ar gytundebau am y cyfnod hwn, yn enwedig yr amddiffynwyr,” meddai Carl Darlington.

“Dw i’n sicr bod y rhan yma o’r tîm ar y trywydd iawn, rydan wedi cael 21 llechen lân y tymor hwn… y cam nesa’ ydi cryfhau ymosodwyr y clwb.

“Rydan ni wedi moderneiddio’r clwb oddi ar y cae. Mae’n allweddol i’r clwb fod y rheolwr nesaf yn gorfod bod â’r clwb yn agos at ei galon.”