Ar ôl y tywydd erchyll yn ddiweddar mae nifer o gynghreiriau wedi gorfod ymestyn eu tymor er mwyn cwblhau gweddill eu gemau.

Fe fydd nifer o glybiau yn chwarae dwy gêm yr wythnos am gyfnod ar ôl i 57 o gemau Cynghrair Undebol Huws Gray gael eu gohirio i gymharu á 13 tymor diwethaf.

Mae’n mynd i fod yn gur pen i ysgrifennyddion clybiau wrth geisio ad-drefnu.

Felly, a ydi hi’n bryd ystyried symud i chwarae yn yr haf yng Nghymru? Neu, a oes yna ateb arall i’r broblem?

Clwb Amaturaidd Blaenau Ffestiniog

“Ein barn ni am hyn yw y dylai pob tref (fel Porthmadog, Blaenau, Pwllheli ayyb) gael safle 3G. Buddsoddiad mewn gwella’r meysydd sydd ei angen arnon ni,” meddai Andrew Roberts, ysgrifennydd.

Mi fasa hyn yn galluogi clwb fel Amaturaidd Blaenau i ymarfer, chwarae a llogi’r cae i’r gymuned.

“Dydan ni ddim o blaid newid y tymor i’r haf, ond fe allai hynny fod yn fanteisiol i bêl-droed ar lefel ieuenctid, er mwyn hybu datblygiad sgiliau ac i gynyddu niferoedd y plant sydd á diddordeb mewn chwarae pêl droed.”

Cymdeithas Bêl-droed Cymru

“Mae symud i’r haf wedi cael ei ystyried ar lefel yr Uwch Gynghrair yn y gorffennol (cyn prosiect 3G), ac rydan ni’n deall ei fod o’n rhywbeth sy’n cael ei ystyried yng Ngolgledd Iwerddon,” meddai Andrew Howard wrth golwg360.

“Ein cyngor i glybiau sy’n berchen ar faes 3G ydi, fod adeiladu maes 3G yn gymhleth. Mae angen i glybiau ystyried yr heriau sy’n eu hwynebu ar ôl eu hadeiladu wrth roi cynllun busnes at ei gilydd.

“Yn bersonol, dw i o’r farn ei bod hi’n werth ymchwilio’n fanwl i bêl-droed haf, ond mae’n bwysig nodi bod yna gynllun ar waith ar hyn o bryd i gael cant o feysydd 3G yng Nghymru erbyn 2020. Mae’n bosib bod hyn yn well ateb i’r broblem o gemau’n cael eu gohirio.

“Mi fydd nifer o’r meysydd 3G mewn ysgolion, felly mae’n ofynnol bod y clybiau, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, y cynghreiriau ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i ddefnyddio’r meysydd ar benwythnosau.”

Clwb pêl-droed Llanfairpwllgwyngyll

“Dim barn bendant gan y clwb,” meddai’r ysgrifennydd, Alun Mummery, “ond mae angen trafodaeth ac efallai newid fel Iwerddon i’r haf.

“Ond mi fasa’n rhaid iddo fod yn rhywbeth fasa’n digwydd yn genedlaethol oherwydd dyrchafiad a darostyngiad…

“Mae’n r haid hefyd meddwl am y rhai sydd yn rhannu cyfleusterau efo meysydd criced – fel Llanrwst, Mochdre Gresffordd a  Helygain i enwi dim ond pedwar.

“Yn bersobnol, dw i ddim yn ffafrio mynd at gaeau 4G, ond efallai bod yn rhaid edrych i mewn i hynny.”

Clwb pêl-droed Llannerch-y-medd

“Mae angen ystyried dau beth i helpu rhag ofn i ni gael sefyllfa debyg i hyn eto,” meddai John Jukes.

“Y cyntaf ydi cael toriad yng nghanol y tymor, a hefyd cael cae 3G yn Llangefni a Chaergybi o dan golau er mwyn cael cyfleusterau sydd yn addas i gynnal nifer  fawr o gemau dros y nosweithiau yn yr wythnos a hefyd ar benwythnos.

“Cael y toriad am ddau fis o ddechrau Rhagfyr i ddechrau mis Chwefror…  a chwarae mwy o gemau canol wythnos ar ddechrau’r tymor. Mwy o gaeau 3G  yn enwedig yn Sir Fon a gwneud i ffwrdd efo un gwpan, ond parhau â Chwpan Cymru.”

Clwb pél-droed Porthmadog

Mae nifer o gemau  clwb pêl droed Porthmadog wedi gohirio ers y Nadolig ac mae’r Cadeirydd Phil Jones o’r farn mai buddsoddi mewn systemau draeniadau da yw’r ateb:

“Basa draeniadau da ym mhob cae yn ffracsiwn o’r gost  o gael maes 3G, a basa’n bodloni’r puryddion.  Rwy’n obeithiol 90% o’r amser basa draeniau yn gallu ymdopi a’r glaw trwm rydan yn cael dyddiau hyn.”