Y Barri 1–1 Y Drenewydd                                                                

Sicrhaodd y Barri y seithfed safle holl bwysig yn Uwch Gynghrair Cymru gyda gêm gyfartal yn erbyn y Drenewydd ar Barc Jenner brynhawn Sul.

Pwynt a oedd ei angen ar tîm cartref i gipio eu lle yn y gemau ail gyfle Ewropeaidd a dyna a gawsant diolch i gôl Jonathan Hood toc cyn yr egwyl.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi chwarter awr, Ryan Kershaw yn ennill y bêl yng nghanol cae cyn rhyddhau Ethan Jones i orffen yn daclus heibio i Mike Lewis yn y gôl.

Felly yr arhosodd hi tan saith munud cyn yr egwyl pan unionodd Hood mewn steil, yn  torri i mewn ar ei droed dde o’r asgell chwith cyn crymanu ergyd dda i gornel isaf y rhwyd.

Y Drenewydd a ddaeth agosaf at ei hennill hi yn yr ail hanner ond anelodd Kieran Mills-Evans un cyfle da yn syth at Lewis a gwyrodd ergyd Luke Poundford yn erbyn y trawst.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Barri yn seithfed yn y tabl, naw pwynt yn glir o’r Drenewydd sydd yn wythfed ac ni all y tîm o’r canolbarth eu dal bellach.

.

Y Barri

Tîm: Lewis, Southam-Hales, Watkins, Cosslett, Hugh, Greening, Saddler, Newman (McLaggon 64’), Cotterill, Fahiya (Gerrard 86’), Hood

Gôl: Hood 38’

.

Y Drenewydd

Tîm: Jones, Williams, Sears, Mills-Evans, Roberts, Harries (Mitchell 72’), Fletcher, Denny, Boundford, Kershaw, Jones

Gôl: Jones 15’

Cardiau Melyn: Harries 37’, Fletcher 76’

.

Torf: 467