Wrecsam 1–2 Dagenham & Redbridge                                     

Mae diweddglo siomedig Wrecsam i’r tymor yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr yn parhau wedi iddynt golli gartref yn erbyn Dagenham & Redbridge brynhawn Sadwrn.

Mae lle’r Dreigiau yn y safleoedd ail gyfle bellach mewn perygl wedi iddynt ildio gôl o fantais i golli ar y Cae Ras.

Roedd y tîm cartref ar y blaen ar yr egwyl diolch i gôl daclus Paul Rutherford hanner ffordd trwy’r hanner.

Unionodd Fejiri Okenabirhie bethau i Dagenham & Redbridge yn gynnar yn yr ail hanner cyn i gôl i’w rwyd ei hun gan David Raven ennill y gêm i’r ymwelwyr chwarter awr o’r diwedd.

Mae Wrecsam yn aros yn seithfed yn y tabl er gwaethaf y golled gan i Dover golli hefyd. Y Dreigiau’n aros yn y safleoedd ail gyfle felly ond mae Dover ac Ebbsfleet o fewn cyrraedd gyda gemau wrth gefn.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Smith, Wedgbury, Raven, Pearson, Mackreth, Rutherford (Ainge 80’) Kelly, Boden, Quigley

Gôl: Rutherford 23’

.

Dagenham & Redbridge

Tîm: Cousins, Nunn, Robson, Adams, Pennell, Howells, Boucaud, Cheek 72’), Howell, Sparkes, Enigbokan-Bloomfield (Robinson 81’), Okenabirhie (Bonds 89’)

Goliau: Okenabirhie 50, Raven [g.e.h.] 75’

.

Torf: 4,193