Norwich 0–2 Caerdydd                                                                     

Dychwelodd Caerdydd i’r ail safle’n y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Norwich ar Carrow Road brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Zohore a Hoilett ym munudau olaf y gêm wrth i’r Adar Gleision neidio dros Fulham yn y tabl, tan i’r tîm o Lundain wynebu Brentford yn y gêm hwyr o leiaf.

Norwich a oedd y tîm gorau mewn hanner cyntaf di sgôr a Dennis Srbeny a ddaeth agosaf at agor y sgorio i’r tîm cartref pan darodd y postyn wedi hanner awr.

Roedd Caerdydd yn well wedi’r egwyl gydag eilyddion Neil Warnock yn creu argraff.

Un o’r eilyddion hynny, Kenneth Zohore, a rwydodd y gôl holl bwysig bedwar munud o ddiwedd y naw deg, yn curo Angus Gunn wedi i’r gôl-geidwad atal ei beniad gwreiddiol.

Mae cyffro hwyr wedi mynd yn erbyn yr Adar Gleision mewn gemau diweddar yn erbyn Aston Villa a Wolves ond nid felly y bu yn Norwich wrth i Junior Hoilett ddiogelu’r fuddugoliaeth gyda chwip o ergyd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Caerdydd i’r ail safle yn y Bencampwriaeth gyda phedair gêm yn weddill ond gall Fulham ddychwelyd drostynt gyda buddugoliaeth dros Brentford nos Sadwrn.

.

Norwich

Tîm: Gunn, Reed (Pinto 81’), Hanley, Klose, Lewis, Leitner (Hoolahan 85’), Tettey, Vrancic, Maddison, Srbeny (Oliveira 81’), Murphy

Cerdyn Melyn: Murphy 90+2’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Bamba (Ecuele Manga 34’), Bennett, Damour (Paterson 45’), Gunnarsson, Mendez-Laing, Bryson, Hoilett, Madine (Zohore 73’)

Goliau: Zohore 86’, Hoilett 90+3’

Cardiau Melyn: Damour 44’, Peltier 66’

.

Torf: 25,503