Munud o gymeradwyaeth, ac nid tawelwch, fydd yng nghae pêl-droed Anfield ddydd Sadwrn i gofio’r 96 a fu farw yn nhrychineb Hillsborough.

Mae’r gêm yn erbyn Bournemouth yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, ddiwrnod cyn pen-blwydd y trychinebg, gan nad yw Lerpwl fyth yn cynnal gemau ar union ddyddiad y trychineb.

Fe fydd murlun arbennig o blacardiau yn creu’r rhif ‘96’ yn cael ei ddangos yn ystod y deyrnged, a bydd y chwaraewyr yn gwisgo band du am eu breichiau. Fe fydd rhaglen swyddogol y gêm hefyd yn cynnwys teyrnged.

Mae’n 29 o flynyddoedd ers y digwyddiad yn Sheffield adeg gêm gyn-derfynol Lerpwl yn erbyn Nottingham Forest ar 15 Ebrill, 1989 yng Nghwpan FA Lloegr.

Teyrnged i ymgyrchwyr

Mae teuluoedd y rhai fu farw wedi gofyn am gymeradwyaeth yn hytrach na thawelwch er mwyn talu teyrnged i ymgyrchwyr sydd wedi brwydro’n galed am dri degawd i sicrhau cyfiawnder iddyn nhw.

Fe fydd digwyddiad arall, gyda munud o dawelwch, yn cael ei gynnal yn Anfield ddydd Sul am 3.06pm, ar yr union amser y digwyddodd y trychineb.

Bydd gwasanaeth coffa llawn yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf i nodi 30 mlynedd ers y trychineb.