Mae Clwb pêl droed Aberystwyth wedi cael wythnos i’w chofio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn cadarnhau ei drwydded ddomestig am dymor 2018/19.

At hynny, mae’r tîm wedi curo’r Drenewydd ddydd Sul yn Y Bala i fynd drwodd i wynebu Cei Connah yn ffeinal Cwpan Cymru ar Fai 6.

Cyn hynny, roedd wedi bod yn dymor i’w anghofio i Aber yn Uwch Gynghrair Cymru. Mae’r clwb wedi bod yn y gwaelodion drwy’r tymor.

Ond, ar y llaw arall, maen nhw wedi gwneud gwyrthiau yn y Cwpan gan guro pedwar clwb o’r Uwch Gynghrair (Y Bala, Met Caerdydd, Chaerfyrddin a’r Drenewydd) i gyrraedd y ffeinal – eu trydedd ffeinal mewn deng mlynedd.

“Rydan wrth ein boddau i gyrraedd y ffeinal,” meddai’r is-reolwr, Wayne Jones, wrth golwg360.

“Rydan ni wedi tangyflawni yn y gynghrair, mae gyda ni chwaraewyr o safon yn y garfan, a heb os fe fyddai nifer yn cerdded i mewn i unrhyw dîm yn y gynghrair…

“Bydd yn gêm galed yn erbyn Cei Connah yn ffeinal Cwpan Cymru, ond mae gyda ni gemau pwysig o’n blaen i sicrhau ein safle yn y gynghrair – yn dechrau gyda Phrestatyn nos Wener oddi cartref.”

Declan Walker

“Mae’n wych i weld Declan Walker yn cael tymor mor dda,” meddai Wayne Jones wedyn.

“Mae wedi chwarae bron bob gêm i ni y tymor hwn ac mae rhaid i ni fel tîm rheoli diolch i Josh Dragone a Ffiona Evans am eu gwaith gyda Declan, heb os maen nhw wedi gwneud gwyrthiau gyda fe, mae wedi cael tymor arbennig.

“Mae wedi bod yn dda hefyd i weithio gyda’r rheolwr newydd, Seamus Heath,” meddai.

“Mae wedi bod yn chwa o awyr iach, mae Neville wedi symud i fod yn gyfarwyddwr pêl droed, rydan i gyd yn bownsio syniadau oddi ar ein gilydd…

“Sicrhau ein lle yn y gynghrair yw’r nod, a gobeithio cael diwrnod i’w cofio mis Mai a gwobrwyo’r cefnogwyr arbennig sydd gyda ni gyda chwpan a mynd i Ewrop y tymor nesaf.”