West Brom 1–1 Abertawe                                                              

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Abertawe ymweld â’r Hawthorns i herio West Brom mewn brwydr tua gwaelodion Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sadwrn.

Sicrhaodd Tammy Abraham gêm gyfartal i’r ymwelwyr o Gymru chwarter awr o’r diwedd wrth iddynt gymryd cam bach arall tuag at ddiogelwch.

Wedi hanner cyntaf di fflach a di sgôr, fe fywiogodd pethau wedi’r egwyl. Aeth y tîm cartref ar y blaen lai na deg munud ar ôl troi, Jay Rodriguez yn rhwydo wedi i Solomon Rondon benio’r bêl i’w lwybr yn y cwrt chwech.

Gwnaeth Lukasz Fabianski sawl arbediad da i gadw Abertawe o fewn un gôl ac felly yr arhosodd hi tan chwarter awr o’r diwedd pan unionodd Tammy Abraham bethau i’r Elyrch, yn penio cic gornel Sam Clucas i gefn y rhwyd heb fawr o wrthwynebiad gan amddiffyn y Baggies.

Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe’n bymthegfed yn y tabl ac mae pedwar pwynt bellach yn eu gwahanu hwy a’r tri isaf.

.

West Brom

Tîm: Foster, Nyom, Dawson, Hegazi, Gibbs, Phillips, Livermore, Brunt, McClean, Rodriguez (Krychowiak 83’), Rondon

Gôl: Rodriguez 54’

Cardiau Melyn: Brunt 50’, Phillips 87’, McClean 90+2′

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, van der Hoorn (Bartley 45’), Fernandez, Mawson, Olsson, A. Ayew (Ki Sung-yueng 85’), King (Dyer 61’), Carroll, Clucas, Abraham

Gôl: Abraham 75’

Cardiau Melyn: Clucas 55’, Bartley 90+2′

.

Torf: 23,297