Bydd timau pêl-droed merched Cymru a Lloegr yn mynd benben heno yn y ras i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2019.

Ar hyn o bryd mae Cymru ar frig y grŵp a phwynt yn well na’u cymdogion dros Glawdd Offa sydd yn yr ail safle.

Ac felly bydd tensiynau’n sicr yn uchel yn Stadiwm St Marry’s, Southampton, heno; lle mae disgwyl torf o dros 25,000.

Ymhlith aelodau carfan Cymru mae Jess Fishlock, Natasha Harding, Angharad James a’r capten Sophie Ingle.

Yn ogystal, mae’n ddigon posib y bydd Hayley Ladd yn dychwelyd i’r cae heno ar ôl cyfnod ag anaf.

Bydd y gêm yn dechrau am saith ac mae modd ei gwylio’n fyw ar BBC Two.