Fe fydd tîm pêl-droed Caerdydd yn teithio i Sheffield United ar Ddydd Llun y Pasg wrth iddyn nhw geisio mynd gam yn nes at ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Maen nhw wedi ennill wyth gêm o’r bron yn y Bencampwriaeth, ac fe allen nhw ymestyn eu mantais dros Fulham, sydd yn drydydd ac yn y safleoedd ail gyfle, i ddeg pwynt.

Byddai buddugoliaeth dros un o hen glybiau’r rheolwr Neil Warnock yn symud Caerdydd o fewn triphwynt i Wolves ar y brig. Byddan nhw’n herio Hull ddydd Mawrth.

Mae Sheffield United, yn y cyfamser, yn brwydro am le yn y gemau ail gyfle ac maen nhw yn y nawfed safle ar hyn o bryd.

Ond dim ond dau bwynt sy’n gwahanu Derby, sy’n bumed, a Preston yn y degfed safle. Ond mae gan Middlesbrough, Bristol City a Millwall obaith o gyrraedd y gemau ail gyfle hefyd.