Bangor 1–0 Y Seintiau Newydd
Rhoddwyd hwb i obeithion Bangor o orffen yn ail yn nhabl Uwch Gyngrhair Cymru gyda buddugoliaeth dros y pencampwyr yn Nantporth nos Sadwrn.
Gwnaeth y Seintiau Newydd sawl newid i’r tîm yn eu gêm gyntaf ers sicrhau’r teitl, ac fe fanteisiodd Bangor yn llawn gan ennill y gêm gyda gôl gynnar Dean Rittenberg.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd y Seintiau’n dda ac roedd yn rhaid i gôl-geidwad Bangor, Matthew Hall, fod yn effro i atal Greg Draper un-ar-un wedi dim ond tri munud.
Daeth y gôl agoriadol, serch hynny, yn erbyn llif y chwarae wrth i Rittenberg roi’r tîm cartref ar y blaen wedi deg munud. Er i Paul Harrison wneud yn dda i arbed peniad gwreiddiol Alex Darlington, fe wyrodd y bêl yn ôl i gyfeiriad Darlington a sgwariodd yntau hi ar draws y cwrt chwech i roi gôl ar blât i Rittenberg.
Y Seintiau a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf wedi hynny ond roedd Hall yn cael gêm i’w chofio rhwng y pyst i’r Dinasyddion.
Gwnaeth y golwr cartref dri arbediad da i atal Draper, Dean Ebbe a Kevin Kauber mewn cyfnod o funud yn fuan ar ôl gôl Bangor. Ond daeth arbediad gorau Hall ddau funud cyn yr egwyl pan lwyddodd i gael blaen ei fysedd i’r bêl i wyro cynnig arall gan Draper yn erbyn y trawst.
Ail Hanner
Parhau a wnaeth y frwydr rhwng Draper a Hall yn yr ail hanner gyda’r gŵr rhwng y pyst yn cael y gorau o’r blaenwr unwaith eto mewn sefyllfa un-ar-un toc cyn yr awr.
Cafwyd arbediad da arall gan Hall ddeg munud o’r diwedd, ac er i ran helaeth o’r ail hanner gael ei chwarae yn hanner Bangor, fe ddaliodd y tîm cartref eu gafael ar y llechen lân i sicrhau’r fuddugoliaeth.
Mae Bangor yn aros yn drydydd er gwaethaf y tri phwynt ond gwahaniaeth goliau’n unig sydd yn eu gwahanu hwy a Chei Connah sydd yn ail gyda thair gêm yn weddill ac mae’r ddau dîm i wynebu ei gilydd mewn pythefnos.
.
Bangor
Tîm: Hall, Bembo-Leta, Kennedy, Wall (Shaw 83’), Miley (Williams 19’), Hewitt, Gosset, Darlington, Holmes, Rittenberg, Wilson
Gôl: Rittenberg 10’
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, Craven, Edwards, Rawlinson, Ebbe, Draper, Brobbel, Clark (Jones 89’), Kauber (Bower 88’), Holland
.
Torf: 522