Mae rheolwr tîm pêl-droed Man U, Jose Mourinho wedi ysbrydoli nifer o reolwyr o Bortiwgal, yn ôl ei gydwladwr a rheolwr Abertawe, Carlos Carvalhal.

Wrth i’r Elyrch baratoi i herio Man U yn Old Trafford heddiw (3 o’r gloch), dywedodd Carlos Carvalhal mai Jose Mourinho yw “brenin ein pêl-droed”.

Mae’r ddau yn ffrindiau da ar ôl ennill eu trwyddedau hyfforddi gan Uefa ar yr un pryd, ac mae Carlos Carvalhal wedi cael sawl cyfle i wylio Jose Mourinho ar y cae ymarfer yn y gorffennol.

Ond dyma’r tro cyntaf i’r ddau fynd ben-ben mewn gêm.

“Mae e’n ysbrydoliaeth, yn frenin ein pêl-droed ni,” meddai Carlos Carvalhal.

“Fe agorodd e gil y drws i genhedlaeth newydd o reolwyr fynd dramor, fe agorodd e syniadau’r byd i hyfforddwyr o Bortiwgal.”

Canmol cydwladwr

Yn ôl Carlos Carvalhal, mae Jose Mourinho yn “ddeallus, yn siarad nifer o ieithoedd, wedi gweithio mewn sawl gwlad” ac fe ddywedodd ei fod yn “falch” o fod yn gydwladwr iddo.

 

“Ry’ch chi naill ai yn ei garu neu’n ei gasáu oherwydd ei bersonoliaeth a’i ochr ddadleuol. Dw i’n deall hynny, ond dw i’n hoff iawn ohono fe.”

Ar drothwy’r frwydr fawr rhwng y rheolwyr o Bortiwgal, fe gafodd y wasg ddanteithion o’r wlad unwaith eto – ond all Carlos Carvalhal ddim dychmygu ei gydwladwr yn gwneud rhywbeth tebyg.

“Ry’n ni’n wahanol iawn yn y ffordd ry’n ni’n ymddwyn. Efallai bod gyda ni bethau’n gyffredin ond mae gyda ni arddull a phersonoliaethau hollol wahanol.”

Syniadau gwahanol

Ac mae’n mynnu fod gan y ddau syniadau gwahanol i’w gilydd fel rheolwyr.

Dim ond ddwywaith mae Carlos Carvalhal wedi colli ers cael ei benodi yn Stadiwm Liberty ym mis Rhagfyr.

Ond mae’n frwydr yn y gwaelodion o hyd, ag Abertawe’n bedwerydd ar ddeg yn nhabl Uwch Gynghrair Lloegr – dim ond triphwynt sy’n eu gwahanu nhw a’r tri safle isaf.

 

 

 

Ond mae hanes o’u plaid wrth iddyn nhw deithio i Old Trafford – maen nhw wedi ennill ddwywaith ac wedi cael un gêm gyfartal ar eu pum cynnig diwethaf yn y stadiwm.

Ond mae Carlos Carvalhal yn mynnu mai Man U yw’r ffefrynnau gan “99.99%” o bobol i ennill y gêm. Ond ychwanegodd fod “0.01%” yn credu y gall yr Elyrch ennill.

Tîm Abertawe

 

Mae disgwyl i Andre Ayew a’r Cymro Andy King ddychwelyd i’r tîm ar ôl gorfod colli’r gêm gwpan yn erbyn Spurs bythefnos yn ôl.

Mae Jordan Ayew wedi’i wahardd o hyd, ac mae gan Renato Sanches ac Angel Rangel anafiadau.