Casnewydd 1–1 Coventry                                                               

Gorffennodd hi’n gyfartal wrth i Gasnewydd groesawu Coventry i Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Gwener y Groglith.

Rhoddodd Demetriou y tîm cartref ar y blaen cyn yr egwyl cyn i gôl hwyr Biamou arbed pwynt i’r ymwelwyr.

Aeth Casnewydd ar y blaen bum munud cyn yr egwyl, Mickey Demetriou yn gorffen yn grefftus o groesiad Dan Butler.

Felly yr arhosodd hi tan ddeuddeg munud o ddiwedd y naw deg pan unionodd Maxime Biamou ddau funud yn unig wedi dod i’r cae fel eilydd i Coventry.

Mae gobeithion main Casnewydd o gyrraedd y gemau ail gyfle yn prysur ddiflannu bellach, maent yn ddeuddegfed yn y tabl wedi’r canlyniad yma, ddeg pwynt y tu ôl i Lincoln yn y seithfed safle holl bwysig.

.

Casnewydd

Tîm: Day, White, O’Brien, Demetriou, Pipe, Wilmott (Sheehan 73’), Dolan, Tozer, Butler, Amond, Hayes (Nouble 45’)

Gôl: Demetriou 40’

Cerdyn Melyn: O’Brien 82’

.

Coventry

Tîm: Burge, Grimmer, McDonald, Hyam, Haynes, Vincenti (Biamou 77’), Bayliss, Doyle, Shipley (Reid 65’), McNulty (Ponticelli 70’), Clarke-Harris

Gôl: Biamou 79’

Cerdyn Melyn: Haynes 73’

.

Torf: 4,667