Mae Cymru wedi colli yn ffeinal Cwpan Tsieina, ar ôl i Wrwgwai sicrhau buddugoliaeth o un gôl i ddim.

Fe gadwodd prif hyfforddwr Cymru, Ryan Giggs, ei ffydd yn y garfan a enillodd yn erbyn Tsieina ddiwedd yr wythnos, a hynny trwy ddewis yr union 11 chwaraewr i gychwyn y gêm heddiw.

Mae’r gêm yma’n golygu bod Gareth Bale bellach wedi derbyn 70 cap dros Gymru, ac Ashley Williams 78 cap.

Roedd ymosodwr Wrwgwai, Edinson Cavani, hefyd yn derbyn ei 100fed cap heddiw, a chyn-ymosodwr Lerpwl, Luis Suarez, ei 97fed gap.

Uchafbwyntiau’r gêm

Fe ddaeth yr hanner cyntaf i ben gyda dim o’r ddwy wlad wedi llwyddo i sgorio.

Ond yn ystod yr hanner hwn, fe ddaeth Luis Suarez yn agos i sgorio ddwywaith, gan daro’r pyst ar y ddau ymgais.

Fe wnaeth Andy King hefyd herio golwr Wrwgwai, sef Fernado Muslera, ddwywaith, tra tarodd Gareth Bale ergyd o 25 llath a gafodd ei harbed ganddo.

Fe agorodd yr ail hanner wedyn gyda Edinson Cavani yn sgorio gôl i Uruguay wedi 49 munud, ac fe arhosodd y garfan o Dde America ar y blaen am weddill y gêm.