Y Seintiau Newydd 5–1 Derwyddon Cefn                                 

Dathlodd y Seintiau Newydd ennill eu seithfed teitl Uwch Gynghrair Cymru yn olynol gyda pherfformiad pum seren yn erbyn y Derwyddon Cefn yn Neuadd y Parc brynhawn Sul.

Daeth cadarnhad nos Wener, wedi i’r Bala golli yn erbyn Cei Connah, mai’r Seintiau a oedd y pencampwyr unwaith eto, a chyn codi’r tlws fe rwydodd y tîm cartref bum gôl mewn buddugoliaeth gyfforddus gyfforddus, gan gynnwys pedair i’r blaenwr, Greg Draper.

Agorodd Draper y sgorio wedi dim ond wyth munud, yn gorffen yn daclus ar y cynnig cyntaf wedi i’r bêl adlamu’n garedig iddo yn y cwrt cosbi.

Bu rhaid aros tan bedwar munud cyn yr egwyl am yr ail, ergyd isel wych o dri deg llath gan Tom Holland.

Rhoddwyd buddugoliaeth y Seintiau tu hwnt i unrhyw amheuaeth wrth i Draper gwblhau ei hatric gyda dwy arall ym mhum munud cyntaf yr ail hanner. Daeth un gyda pheniad gwych o groesiad Chris Marriott a’r llall wrth iddo wyro croesiad cadarn Jamie Mullan i mewn gyda’i frest.

Cyfunodd Mullan a Draper ar gyfer pumed y pencampwyr saith munud o’r diwedd hefyd, y blaenwr yn sgorio’i bedwaredd o groesiad isel yr asgellwr.

Roedd digon o amser ar ôl am gôl gysur i’r Derwyddon, ac am gôl oedd hi, Matty Owen yn crymanu cic rydd gelfydd i’r gornel uchaf o ugain llath.

Ond wnaeth hynny ddim tynnu llawer o sglein oddi ar fuddugoliaeth y Seintiau a thymor llwyddiannus arall i bencampwyr Uwch Gyngrhair Cymru.

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Marriott (Clark 60’), Saunders (Rawlinson 15’), Routledge, Brobbel, Drapel, Hudson, Mullan, Holland (Kauber 64’), Edwards, Pryce

Goliau: Draper 8’, 47’, 49’, 83’, Holland 41’

Cerdyn Melyn: Pryce 78’

.

Derwyddon Cefn

Tîm: Jones, Arsan, Peate, Owen, Taylor (ap Gareth 50’), Pritchard (George 64’), Davies, Simpson, Hajdari (Buxton 73’), Piskorski, Ashton

Gôl: Owen 89’

Cerdyn Melyn: Ashton 51’

.

Torf: 361