Wrecsam 1–0 Maidstone                                                                

Sgoriodd Shaun Pearson unig gôl y gêm wrth i Wrecsam guro Maidstone ar y Cae Ras ddydd Sadwrn i gadw eu gobeithion o ddyrchafiad uniongyrchol o Gynghrair Genedlaethol Lloegr yn fyw o hyd.

Bu rhaid aros tan chwarter awr o’r diwedd am yr unig gôl wrth i Andy Davies ennill ei gêm gyntaf wrth y llyw ar y Cae Ras.

Wrecsam a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf a bu bron i Scott Quigley eu rhoi ar y blaen ond tarodd ei beniad yn erbyn y trawst.

Roedd hi’n gêm agosach wedi’r egwyl ond y tîm cartref a aeth â hi diolch i beniad hwyr yr amddiffynnwr, Person.

Mae’r canlyniad yn codi’r Dreigiau i’r pedwerydd safle yn y tabl, bum pwynt o’r brig gyda saith gêm yn weddill.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Jennings, Smith, Deverdics (Franks 57’), Roberts, Pearson, Wedgbury, Rutherford, Kelly, Quigley (Ainge 82’), Holroyd

Gôl: Pearson 75’

Cardiau Melyn: Pearson 45+1’, Quigley 55’

.

Maidstone

Tîm: Worgan, De Havilland, Hare, Lewis, Wynter, Finney, Anderson, Phillips (Luer 77’), Turgott, Laffayete, Loza (Sam-Yorke 68’)

Cerdyn Melyn: Laffayette 38’

.

Torf: 4,443