Mae cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, Paul Clement wedi dweud wrth wefan Clwb Pêl-droed Reading ei fod e wedi treulio “tri mis rhy hir” i ffwrdd o’r byd pêl-droed.

Cafodd ei benodi’n rheolwr ar dîm Reading yn y Bencampwriaeth ddydd Gwener – dri mis ar ôl cael ei ddiswyddo gan Abertawe, oedd ar waelod yr Uwch Gynghrair ar y pryd. Ond roedd e wedi llwyddo i’w hachub y tymor blaenorol.

Sefyllfa debyg fydd y Sais ynddi y tro hwn hefyd, gyda Reading yn ugeinfed yn nhabl y Bencampwriaeth gydag wyth gêm o’r tymor yn weddill. Triphwynt yn unig sydd rhyngddyn nhw a’r gwaelodion.

Wrth gael ei benodi, dywedodd Paul Clement: “Allai fy nghartre’ ddim bod yn fwy taclus, allai fy nghar ddim bod yn lannach, mae’r glaswellt yn edrych yn hyfryd! Ond mae’n bryd dod yn fy ôl i hyfforddi pêl-droed.

“Roedd yn dri mis [allan], a’r tri mis hynny’n rhy hir i fi.”

‘Pethau diddorol’

Ond mae’n dweud ei fod e wedi cael y cyfle i wneud “pethau diddorol” yn ystod ei gyfnod i ffwrdd o’r gêm.

“Rhai ohonyn nhw gyda’r cyfryngau, rhai yn ymweld â rheolwyr yn y wlad hon ac yn fwyaf diweddar, ro’n i yn Los Angeles ac wedi cael cyfarfod gwych gyda phrif hyfforddwr y Los Angeles Rams, lle gwnaethon ni rannu syniadau m arweiniad, rheoli a hyfforddi.”

Fe fydd ei gêm gyntaf wrth y llyw nos Wener, gartref yn erbyn QPR (5.30).