Mae cyn-chwaraewr Lerpwl a Chymru, Ian Rush, wedi dweud ei fod yn “hapus iawn” gyda Gareth Bale ar ôl i seren Real Madrid sgorio hat-trig gofiadwy a chwalu record Rush ei hun ar gyfer y nifer fwyaf o goliau ar y llwyfan rhyngwladol.

“Does gen i ddim teimladau cymysg, rwy’n hapus iawn amdano,”” meddai Ian Rush mewn cyfweliad â gwefan ESPN FC.

“Mae record yno i’w thorri. Mae bob amser yn braf torri record, ond pan fydd rhywun mor arbennig ag ef yn ei dorri, mae’n rhywbeth arbennig.

“Fe fydd yn mynd i lawr yn hanes fel un o chwaraewyr mwyaf arbennig Cymru erioed, mae’n debyg. Gobeithio bod llawer mwy o goliau i ddod eto gan Bale oherwydd dw i’n credu y gall fod hyd yn oed wneud yn well na hyn.”