Fe fydd Ashley Williams yn parhau’n gapten ar dîm pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan Tsieina, sy’n dechrau ddydd Iau.

Ac mae’r rheolwr newydd, Ryan Giggs wedi dweud ei fod yn disgwyl i’w gapten “gwych” roi tymor anodd gydag Everton y tu ôl iddo.

Fe fu cyn-gapten Abertawe dan y lach yn gyson yn sgil ei berfformiadau, ac mae wedi’i wahardd rhag chwarae i’w glwb ar hyn o bryd ar ôl cael ei anfon o’r cae yn y gêm yn erbyn Burnley.

Ond fe fydd rhoi’r gapteniaeth iddo’n cael ei weld yn arwydd o hyder yn un o’r hoelion wyth sydd wedi ennill 76 o gapiau dros ei wlad.

Dywedodd Ryan Giggs: “Y cyfan alla i farnu arno yw perfformiadau Ash i Gymru ac maen nhw wedi bod yn wych.

“Mae’n debyg i lawer o chwaraewyr, maen nhw’n dueddol o fynd i’r lefel nesaf wrth chwarae dros Gymru.

“Dyna’r cyfan fydda i’n edrych arno. Dw i wedi cael sawl sgwrs gyda fe, ac mae e wedi bod yn gapten rhagorol ar Gymru.”

Hanes y capten

Cafodd Ashley Williams ei benodi’n gapten gan Chris Coleman ym mis Hydref 2012, ac roedd e’n ffigwr allweddol yn ymgyrch Ewro 2016 yn Ffrainc, wrth i Gymru gyrraedd y rownd gynderfynol.

Ac er ei fod e wedi’i wahardd o’r Uwch Gynghrair am y tro, mae e wedi aros yn broffesiynol o safbwynt y tîm cenedlaethol, yn ôl Giggs.

“Daeth e i lawr i gwrdd â fi a’r holl staff. Roedd hynny’r diwrnod ar ôl iddo fe gael ei anfon o’r cae, felly roedd hi’n wych ei fod e wedi dod i lawr.

“Dw i wedi bod yn chwaraewr ac os ydych chi’n colli’r gêm y diwrnod blaenorol, ac mae gyda chi bethau i’w gwneud y diwrnod wedyn, dydych chi ddim yn teimlo fel gwneud hynny.

“Ro’n i wrth fy modd ei fod e wedi dod i lawr a threulio ychydig oriau gyda’r holl staff.”

Ac mae disgwyl i Ashley Williams fod yn aelod allweddol o’r garfan ar gyfer Cwpan Tsieina.

“Fe ddywedais i wrtho fe, “Mae angen gemau arnat ti nawr!” ac fe wnaeth e chwerthin ar hynny. Mae e wedi bod yn wych gyda fi.”