Mae rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock wedi ymateb i’r newyddion fod gêm ei dîm yn erbyn Derby yn Pride Park wedi cael ei gohirio oherwydd yr eira.

Mewn cyfweliad â Sky Sports News, dywedodd Warnock, â’i dafod yn ei foch fod “braidd dim eira”, cyn ychwanegu, “Allwch chi ddim eu beio nhw mewn ffordd, am wn i. Fyddech chi ddim eisiau chwarae yn ein herbyn ni ar hyn o bryd, fyddech chi?”

Mae Caerdydd yn ail yn nhabl y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, ac mae ganddyn nhw 76 o bwyntiau. Mae gan Fulham ac Aston Villa 69 o bwyntiau’r un yn y safleoedd ail gyfle.

Mae Derby yn bumed yn y tabl ar 62 o bwyntiau.

Beirniadu’r penderfyniad

Yn ystod y cyfweliad, dywedodd Neil Warnock fod y penderfyniad i ohirio’r gêm am 8.15 fore Sul yn “sgandal” ac yn “warth”.

“Fe ddaethon ni i fyny ddoe ac yn amlwg roedd eira, ond dw i’n credu bod y peth yn warth, a bod yn onest.

“Edrychwch ar y gemau bythefnos yn ôl, yn erbyn Fulham yma, ac os edrychwch chi ar y wefan, mae holl gefnogwyr Derby yn dweud ei bod ddeg gwaith gwaeth.”

 

 

Dywedodd nad oedd eira yn agos i’r stadiwm heddiw, a bod y siopau a’r meysydd parcio ar agor.

“Dw i’n credu bod rhai o’n cefnogwyr ni tu allan ar ôl teithio, rhai o gefnogwyr Derby sydd wedi teithio milltiroedd ac ry’ch chi’n gweld yr holl sylwadau. Sori, ond alla i ddim derbyn hynny heddiw.”

Diogelwch

Mae Neil Warnock hefyd wedi amau’r penderfyniad i ohirio’r gêm am resymau diogelwch.

“Diogelwch? Ry’n ni wedi dod o ganol cefn gwlad ar y bws ac mae’r ffyrdd yn hollol iawn felly dw i jyst ddim yn deall eu safbwynt nhw yn hyn o beth. Mae’n gadael blas cas.

 

“Dw i’n credu ei bod yn sgandal.”

Dywedodd y Gynghrair Bêl-droed eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad i ohirio’r gêm ar sail trafodaethau gyda Chlwb Pêl-droed Derby, Heddlu Swydd Derby a swyddogion diogelwch lleol.

Fe fydd Caerdydd yn cael y cyfle i ymateb i’r penderfyniad yn swyddogol maes o law.