Mae pedwar o chwaraewyr wedi tynnu’n ôl o garfan bêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan Tsieina sy’n dechrau ddydd Iau.

Dydy’r Gymdeithas Bêl-droed ddim wedi dweud pam na fydd Ethan Ampadu, Tom Lawrence, Joe Ledley na Neil Taylor yn teithio gyda’r garfan.

Mae Adam Matthews wedi cael ei ychwanegu at y garfan.

Bydd Cymru’n herio Tsieina ddydd Iau (11.35yb).

Bydd eu hail gêm, yn erbyn Wrwgwái neu Weriniaeth Tsiec ar Fawrth 26, yn cael ei darlledu’n fyw gan S4C.

Y garfan

 

 

Wayne Hennessey (Crystal Palace), Chris Maxwell (Preston North End), Michael Crowe (Ipswich), Ashley Williams (Everton), James Chester (Aston Villa), Ben Davies (Spurs), Adam Matthews (Sunderland), Chris Gunter (Reading), Declan John (Rangers), Connor Roberts (Abertawe), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Joe Allen (Stoke), Lee Evans (Sheffield United), Andy King (Abertawe), Ryan Hedges (Barnsley), Chris Mepham (Brentford), Marley Watkins (Norwich), Gareth Bale (Real Madrid), Ben Woodburn (Lerpwl), Harry Wilson (Hull City), Billy Bodin (Preston North End), Sam Vokes (Burnley), Tom Bradshaw (Barnsley)