Mae is-reolwr newydd tîm pêl-droed Cymru, Albert Stuivenburg wedi addo dysgu Hen Wlad Fy Nhadau erbyn dechrau cystadleuaeth Cwpan Tsieina.

Mae’r twrnament yn dechrau ddydd Iau, wrth i Gymru herio’r tîm cartref yn y gêm gyntaf.

Ac mae’r is-reolwr wedi bod yn cael gwersi gan Osian Roberts, sydd hefyd wedi’i gadarnhau fel aelod o dîm hyfforddi Ryan Giggs.

‘Her fawr’

Mewn fideo ar dudalen Twitter Cymdeithas Bêl-droed Cymru, dywedodd Albert Stuivenburg y byddai dysgu ychydig o Gymraeg yn “her fawr” ond ei fod yn “edrych ymlaen”.

“Dw i wedi gofyn i gydweithwyr roi fideo i fi o’r anthem genedlaethol, y geiriau a sut mae eu hynganu nhw oherwydd dyna’r her fawr yn yr achos yma, ond mae ffordd bell i fynd cyn Tsieina a galla i weithio ar hynny, ac mae gyda fi’r athro gorau wrth fy ochr.”

Ychwanegodd Osian Roberts, “Dw i’n hyderus y bydd o’n barod erbyn y gêm gyntaf.”