Mae gêm bêl-droed Caerdydd oddi cartref yn Derby wedi cael ei gohirio oherwydd yr eira.

Mae’r ardal o amgylch stadiwm Pride Park yn anniogel yn dilyn eira trwm dros nos.

Mae’r Adar Gleision yn ail yn nhabl y Bencampwriaeth, ac mae ganddyn nhw fantais o saith pwynt dros Fulham ac Aston Villa, sydd â 69 pwynt yr un.

Fydd yna ddim rasys ceffylau yn Ffos Las heddiw ychwaith oherwydd y tywydd, ac mae Hanner Marathon Casnewydd hefyd wedi’i ganslo.