Casnewydd 1–1 Luton                                                                      

Mae gobeithion Casnewydd o gyrraedd gemau ail gyfle’r Ail Adran yn dechrau diflannu yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Luton ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Mae’r pwynt yn un digon parchus yn erbyn y tîm sydd yn ail yn y tabl ond mae’r gemau yn dechrau diflannu os yw’r Alltudion am fynd ar rediad hwyr i gyrraedd y saith uchaf.

Aeth Casnewydd ar y blaen wedi dim ond dau funud pan adlamodd y bêl yn garedig i Josh Sheehan i agor y sgorio.

Ymatebodd yr ymwelwyr yn dda ac roeddynt yn haeddiannol gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf diolch i beniad Dan Potts.

Er gwaethaf y dechrau prysur, arafodd y sgorio wedi hynny a gorffen yn gyfartal un gôl yr un a wnaeth hi.

Mae’r canlyniad yn gadael Casnewydd yn unfed ar ddeg yn nhabl yr Ail Adran, saith pwynt o’r safleoedd ail gyfle gyda naw gêm yn weddill.

.

Casnewydd

Tîm: Day, White, Demetriou, O’Brien, Butler, Sheehan (Nouble 70’), Dolan, Toxer, Collins, Amond (McCoulsky 86’), Willmott

Gôl: Sheehan 2’

Cerdyn Melyn: Dolan 80’

.

Luton

Tîm: Stech, Stacey, Cuthbert, Sheehan, Potts, Gambin (McCormack 88’), Rea, Berry, Lee (Cornick 68’), Collins, Hylton (Jervis 84’)

Gôl: Potts 23’

.

Torf: 3,512