Woking 2–2 Wrecsam                                                                      

Llithrodd Wrecsam i’r pumed safle yn nhabl Cynghrair Genedlaethol Lloegr gyda gêm gyfartal yn erbyn Woking yn Stadiwm Kingfield brynhawn Sadwrn.

Mae gobeithion y Dreigiau o ennill y gynghrair yn dechrau diflannu wedi dim ond pwynt yn eu gêm gyntaf ers i’r rheolwr, Dean Keates, adael am Walsall.

Cyfartal a oedd hi ar hanner amser wedi gôl yn y ddau ben gan amddiffynnwr Woking, Josh Staunton.

Rhoddodd Marcus Kelly yr ymwelwyr o ogledd Cymru ar y blaen ar yr awr ond bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yn unig yn y diwedd diolch i gôl hwyr gan chwaraewr sydd yn rhannu’r un enw â chyn ffefryn y Dreigiau, Joey Jones.

Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn bumed yn y tabl, saith pwynt y tu ôl i Macclesfield ar y brig ond yn gymharol ddiogel o’u lle yn y gemau ail gyfle.

.

Woking

Tîm: Baxter, Young (Ramsay 77’), Ralph, Carter, Staunton, Jones, Ferdinand, Charles-Cook, Banton (Saraiva 65’), Grego-Cox, Theoohanous

Goliau: Staunton 12’, Jones 80’

Cardiau Melyn: Jones 58’, Grego-Cox 90’

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Deverdics (Wright 86’), Pearson, Wedgbury, Holroyd, Roberts, Rutherford, Carrington, Quigley (Boden 77’), Kelly (Ainge 86’), Raven

Gôl: Staunton [g.e.h.] 33’, Kelly 60’

.

Torf: 1,458