Ni fydd Abertawe yn gorfod cadw Harry Kane yn dawel wrth iddyn nhw wynebu Spurs yn rownd wyth olaf Cwpan FA Lloegr amser cinio yfory.

Mae peiriant sgorio Spurs wedi anafu ei bigwrn ac ni fydd ar gael tan fis nesaf, ac mae yn debyg mai’r Archentwr chwimwth Eric Lamela fydd yn cymryd ei le.

Record Harry Kane – 102 o gôls mewn 142 o gemau i Spurs.

Abertawe

Mae rheolwr yr Elyrch, Carlos Carvalhal, wedi dweud y bydd yn enwi tîm cryf ar gyfer y gêm gwpan yfory.

A bydd angen perfformiad o’r radd flaenaf – nid yw Abertawe erioed wedi trechu Spurs yn yr Uwch Gynghrair yn Lloegr, gan fethu cipio’r tri phwynt mewn 14 gêm.

Ond fe fydd yn rhaid iddyn nhw ymdopi heb y brodyr Ayew, Leroy Fer a Wilfried Bony.

Ac mae rheolwr Abertawe yn credu mai Spurs yw’r ffefrynnau.

“Maen nhw yn well tîm na ni,” meddai Carlos Carvalhal, “ond gyda phêl-droed rydych yn gwybod, hyd yn oed os yw’r gwrthwynebydd yn well, os ydyn nhw yn wael ar y diwrnod a chithau yn dda, mi fedrwch chi ennill.

“Dyma brydferthwch pêl-droed.”