Mae Chelsea yn cadw llygad ar sefyllfa Aaron Ramsey yn Arsenal, yn ôl papur newydd The Daily Mirror.

Dim ond blwyddyn o gytundeb y Cymro gyda’r Gunners sydd ar ôl, ac maen nhw eto i gynnig cytundeb newydd iddo.

Ni fydd y chwaraewr canol cae yn chwarae i Gymru yng Nghwpan Tsieina, er iddo chwarae neithiwr ym muddugoliaeth Arsenal tros AC Milan yng Nghwpan Cynghrair Ewrop.

Bydd Aaron Ramsey yn aros adref er mwyn cael trin anaf yn ystod cyfnod y gemau rhyngwladol.