Brentford 1–3 Caerdydd                                                                  

Mae Caerdydd gam yn nes at sicrhau dyrchafiad i Uwch Gyngrhair Lloegr ar ôl trechu Brentford yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Er i’r tîm cartref fynd ar y blaen gyda gôl gynnar ar Barc Griffin, fe darodd yr Adar Gleision yn ôl gyda goliau Bamba, Paterson a Zohore.

Pum munud yn unig a oedd ar y cloc pan orffennodd Neal Maupay yn daclus i roi Brentford ar y blaen wedi i Marko Grujic golli’r meddiant i Sergi Canos ar y llinell hanner.

Roedd yr ymwelwyr o Gymru yn gyfartal ugain munud cyn yr egwyl diolch i gôl wych Sol Bamba. Methodd Brentford a chlirio’n ddigon da o gic gornel a chymerodd yr amddiffynnwr canol mawr un cyffyrddiad i droi ac un arall i daro chwip o ergyd i gefn y rhwyd.

Aeth yr Adar Gleision ar y blaen yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf, Callum Paterson yn gorffen ar y cynnig cyntaf wedi gwaith da Junior Hoilett ar y chwith.

Rhoddodd Kenneth Zohore olau dydd rhwng y ddau dîm gyda thrydedd gôl Caerdydd toc cyn yr awr, yn cael blaen ei droed i’r bêl cyn y gôl geidwad wedi i Hoilett ei phenio ar draws y cwrt cosbi.

Roedd hynny’n hen ddigon i Gaerdydd wrth iddynt amddiffyn yn gyfforddus wedi hynny i sicrhau’r tri phwynt.

Mae’r fuddugoliaeth, ynghyd â chaolled Aston Villa gartref yn erbyn QPR, yn rhoi Caerdydd saith pwynt yn glir yn yr ail safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Brentford

Tîm: Bentley, Clarke, Egan, Mepham, Barbet, Yennaris (MacLeod 69’), Woods, Canos (Marcondes 69’), Sawyers, Watkins, Maupay (Judge 75’)

Gôl: Maupay 5’

Cerdyn Melyn: Mepham 65’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Grujic, Damour, Mendez-Laing (Traore 88’), Paterson, Hoilett (Wildschut 82’), Zohore (Madine 77’)

Goliau: Bamba 25’, Paterson 45+2’, Zohore 58’

Cardiau Melyn: Ecuele Manga 18’, Damour 55’, Morrison 71’

.

Torf: 8,549