Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal wedi cael ei ddisgrifio fel “chwa o awyr iach” gan amddiffynnwr canol y tîm, Alfie Mawson.

Dim ond ddwywaith mae’r Elyrch wedi colli gêm o dan reolaeth y gŵr o Bortiwgal, a gafodd ei benodi’n olynydd i Paul Clement ddiwedd mis Rhagfyr pan oedd y tîm ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr.

Ond maen nhw bellach wedi codi allan o’r gwaelodion ac wedi cymryd camau breision tuag at ddiogelwch – er bod eu tynged yn dal yn ansicr ar hyn o bryd.

Roedd yr Elyrch yn wynebu colli am y trydydd tro ddydd Sadwrn wrth i Huddersfield roi eu deg dyn dan bwysau ar ôl i Jordan Ayew weld cerdyn coch am dacl flêr ar ôl deg munud. Ac roedd Alfie Mawson a’i bartner amddiffynnol, Mike van der Hoorn yn allweddol i’w hymdrechion.

Dywedodd Alfie Mawson: “Mae e wedi bod yn wych. Mae e wedi bod yn chwa o awyr iach. Mae’n llawn cymeriad, yn llawn egni, sy’n bopeth ry’n ni wedi bod yn elwa ohono fe. Mae’n bleser chwarae oddi tano fe.”

Ac mae Alfie Mawson o’r farn y gallai gael ei enwi’n Rheolwr y Flwyddyn ar ddiwedd y tymor.

“Mae e wedi gwneud rhywbeth yn iawn, on’d do fe? Beth bynnag mae e wedi’i wneud, mae e’n llwyddo. Ry’n ni’n bwydo oddi arno fe. Mae e’n ddoniol, yn barod i chwerthin, ond pan fydd e’n canolbwyntio ar fusnes, mae’n hollol ddifrifol.

“Mae gyda ni gymaint o barch iddo fe. Mae ganddo fe dipyn o barch i ni hefyd. Boed i beth bynnag mae e’n ei wneud barhau.”

Blaenoriaethu Abertawe dros Loegr

Mae perfformiadau Alfie Mawson y tymor hwn yn golygu ei fod e’n cael ei ystyried yn opsiwn ar gyfer Cwpan y Byd yn Rwsia yn yr haf pan fydd rheolwr Lloegr, Gareth Southgate yn cyhoeddi’r garfan.

Ond am y tro, mae sylw’r chwaraewr ar yr her o gadw Abertawe yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall.

“Byddai’n fraint [cael chwarae i Loegr], peidiwch â ’nghamddeall i. Sais ydw i, a byddwn i’n falch iawn.

“Ond mae gyda fi bethau amgenach i boeni amdanyn nhw ar hyn o bryd. Rhaid i fi helpu’r tîm hwn i aros yn yr Uwch Gynghrair.”