Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n ystyried apelio yn erbyn cerdyn coch Jordan Ayew tua dechrau’r gêm gyfartal ddi-sgôr yn Huddersfield brynhawn dydd Sadwrn.

Aeth yr Elyrch i lawr i ddeg dyn ar ôl deg munud ar ôl i’r dyfarnwr Michael Oliver benderfynu bod yr ymosodwr wedi dangos gwaelod ei esgidiau i Jonathan Hogg a’i daclo’n flêr.

Ond yn ôl rheolwr Abertawe, Carlos Carvalhal, roedd Hogg yr un mor euog o droseddu ag yr oedd Jordan Ayew.

“Fe welais i sefyllfa lle nad oedd, yn fy marn i, yn gerdyn coch. Gan fy mod i wedi gweld y fideo, mae’n haws siarad.

“Heriodd dau chwaraewr ei gilydd yn galed iawn am y bêl, a’u traed yn union yr un llefydd, dau chwaraewr, union yr un fath.

“Roedd yr hyn wnaeth fy chwaraewr i a chwaraewr Huddersfield union yr un fath. Fe welwch chi’r lluniau. Y ddau yn union yr un sefyllfa.

“Os yw’n gerdyn coch, mae’n gerdyn coch i’r ddau chwaraewr neu ddim yn gerdyn coch i’r un chwaraewr. Dyna fy marn i o weld y fideo.”

Dywedodd ei fod yn “parchu” y penderfyniad, ond ei fod yn ystyried apelio.

Rhediad da yn parhau

Mae rhediad da Abertawe o dan y rheolwr o Bortiwgal yn parhau. Dim ond unwaith maen nhw wedi colli mewn 14 o gemau o dan Carlos Carvalhal.

Mae’r pwynt yn golygu eu bod nhw’n bedwerydd ar ddeg yn nhabl Uwch Gynghrair Lloegr, bedwar pwynt uwchlaw’r tri safle isaf.

“Roedd yn bwynt enfawr,” meddai Carlos Carvalhal. “Os oedd yn bwynt da cyn y gêm, roedd yn bwynt enfawr ar ôl y gêm oherwydd amgylchiadau’r gêm.

“Fe ddangosodd fy chwaraewyr wir gymeriad, yn unigol a gyda’i gilydd, yn erbyn tîm nad yw’n hawdd chwarae yn eu herbyn nhw.”

“Yn y pen draw, fe enillon ni un pwynt yn erbyn tîm wnaeth ddigon i ennill triphwynt.”