Caerdydd 2–1 Barnsley                                                                    

Caeodd Caerdydd y bwlch rhyngddynt a Wolves ar frig y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth dros Barnsley yn Stadiwm y Ddinas nos Fawrth.

Tri phywnt yn unig sydd bellach yn gwahanu’r Adar Gleision a’r tîm ar y brig diolch i goliau Paterson a Grujic.

Gôl flêr Callum Paterson wedi hanner awr a oedd unig gôl yr hanner cyntaf ond roedd hi’n ddwy i ddim yn gynnar yn yr ail gyfnod diolch i ergyd isel Marko Grujic o du allan i’r cwrt cosbi.

Roedd Barnsley yn ôl o fewn gôl ar yr awr diolch i Oliver McBurnie o bawb, y blaenwr sydd ar fenthyg yn Swydd Efrog o Abertawe.

Cafodd yr ymwelwyr ddigon o’r meddiant wedi hynny hefyd ond fe ddaliodd Caerdydd eu gafael i sicrhau buddugoliaeth bwysig.

Gyda Wolves ddim yn chwarae tan iddynt deithio i Leeds nos Fercher, mae buddugoliaeth Neil Warnock a’i dîm yn cau’r bwlch ar y brig i dri phwynt.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Connolly, Ecuele Manga, Bamba, Bennett, Paterson (Damour 62’), Grujic (Halford 56’), Bryson, Hoilett, Zohore, Harris (Mendez-Laing 70’)

Goliau: Paterson 31’, Grujic 46’

Cardiau Melyn: Grujic 14’, Halford 81’

.

Barnsley

Tîm: Townsend, Yiadom, Pinnock, Lindsay, Fryers, Potts (Bradshaw 87’), Williams, Gardner (Knasmullner 45’), Thiam (Hedges 75’), Moore, McBurnie

Gôl: McBurnie 60’

Cardiau Melyn: Gardner 14’, Yiadom 83’, Moore 85’

.

Torf: 16,176