Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi heddiw’r garfan ar gyfer y gêm ryngwladol ‘C’ yn erbyn Lloegr ar Barc Jenner nos Fawrth, Mawrth 20.

Mae’r rheolwr Mark Jones wedi dewis 18 o chwaraewyr o Uwch Gynghrair Cymru a dau chwaraewr ychwanegol a fydd yn ymarfer gyda’r garfan cyn y gêm.

“Rydan ni’n teimlo ein bod ni wedi dewis carfan â digon o opsiynau,” meddai’r is -rheolwr, Owain Tudur Jones, wrth golwg360.

“Mae hi i fyny i’r chwaraewr gymryd y cyfle a chreu argraff. Mae’r chwaraewr i gyd yn haeddu eu lle yn y garfan, ac rydan ni’n edrych ymlaen at noson gyffrous.”

Y garfan yn llawn

Gôl-geidwaid  Ashley Morris (Bala), Mike Lewis (Y Barri),

Amddiffynwyr – Chris Hugh (Y Barri), Connell Rawlinson (Y Seintiau Newydd), Kai Edwards (Cei Connah), Mike Pearson (Cei Connah), Naim Arsam (Derwyddon Cefn), T Craig Williams (Y Drenewydd),

Canolwyr – Aeron Edwards (Y Seintiau Newydd), Chris Venables (Y Bala), Danny Gosset (Bangor), Jay Owen (Cei Connah), Jordan Cotterill (Y Barri)

Ymosodwyr  Adam Roscrow (Met Caerdydd), Eliot Evans (Met Caerdydd), John Owen (Aberystwyth), Kayne McLaggon (Y Barri), Toby Jones (Llandudno)

Aelodau’r gwersyll ymarfer – Noah Edwards (Prestatyn) a Guto Williams (Bangor)