Brighton 4–1 Abertawe                                                                   

Llithrodd Abertawe yn ôl i dri isaf Uwch Gynghrair Lloegr wrth golli yn erbyn Brighton yn yr Amex brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Glenn Murray ddwy waith wrth i’r Gwylanod ennill yn gyfforddus yn y frwydr tua’r gwaelodion.

Agorodd Murray’r sgorio o’r smotyn wedi deunaw munud yn dilyn trosedd arno yn y cwrt cosbi gan Mike van der Hoorn.

Bu rhaid aros tan hanner ffordd trwy’r ail hanner am ei ail, yn sgorio wedi cyd chwarae taclus gyda Jose Izquierdo y tro hwn.

Ychwanegodd Anthony Knockaert drydedd y tîm cartref cyn i Lewis Dunk wyro ergyd Tammy Abraham i’w rwyd ei hun i roi llygedyn o obaith i’r ymwelwyr o Gymru bum munud o’r diwedd.

Roedd amser am un gôl arall ond pedwerydd i’r tîm cartref a oedd honno wrth i Jurgen Lodica gwblhau buddugoliaeth gyfforddus

Gyda dim ond chwe phwynt yn gwahanu’r naw tîm rhwng y degfed a’r pedwrydd safle ar bymtheg yn y tabl, mae unrhyw gêm rhwng dau o’r timau hynny’n achosi cryn newid yn tabl. Mae’r canlyniad hwn yn codi Brighton bedwar lle i’r degfed safle ond yn gostwng yr Elyrch ddau le i’r deunawfed safle.

.

Brighton

Tîm: Ryan, Schelotto, Duffy, Dunk, Bong, Knockaert (March 79’), Stephens, Propper, Izquierdo, Groß (Kayal 90+1’), Murray (Locadia 82’)

Goliau: Murray [c.o.s] 18’, 69’, Knockaert 73’, Locadia 90’

Cerdyn Melyn: Murray 63’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, van der Horrn (Narsingh 45’), Fernandez, Mawson, Olsson, Dyer (A. Ayew 36’), Ki Sung-yueng, Carroll (Abraham 66’), Clucas, J. Ayew

Gôl: Dunk [g.e.h.] 85’

.

Torf: 30, 523