Port Vale 0–0 Casnewydd                                                               

Gêm gyfartal ddi sgôr a gafodd Casnewydd wrth iddynt ymweld â Vale Park i herio Port Vale yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Mewn brwydr rhwng dau dîm ar rediadau gwael, y tîm cartref a ddaeth agosaf at sgorio yn yr hanner cyntaf pan darodd Michael Tonge y pren.

Cafodd Casnewydd gyfleoedd i’w hennill hi wedi’r egwyl ond cafwyd arbediad da gan Ryan Boot i atal Frank Nouble wrth i Port Vale ddal eu gafael am gêm gyfartal.

Mae’r pwynt yn codi Casnewydd un lle i’r trydydd safle ar ddeg yn y tabl ond mae naw pwynt bellach yn eu gwahanu hwy â safleoedd y gemau ail gyfle.

.

Port Vale

Tîm: Boot, Davis, Smith, Howkins, Gibbons (Whitfield 45’), Tonge (Myers-Harness 82’), Pugh, Montano, Worrall, Pope, Hannant (Barnett 60’)

.

Casnewydd

Tîm: Day, White, O’Brien, Demetriou, Pipe, Dolan, Willmott, Tozer, Butler, Amond (Hayes 76’), Nouble (McCoulsky 76’)

Cerdyn Melyn: Butler 90’

.

Torf: 4,031