Fe fydd tîm pêl-droed Cymru yn wynebu Mecsico mewn gêm gyfeillgar yng Nghaliffornia ar Fai 28 eleni.

Cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fanylion y gêm, a fydd yn cael ei chwarae yn stadiwm y Rose Bowl, nos Iau.

“Bydd hyn yn gyfle ffantastig i ni brofi ein hunain yn erbyn ochr sy’n mynd i Gwpan y Byd yn yr haf,” meddai’r rheolwr newydd, Ryan Giggs.

“Mae’r Rose Bowl yn stadiwm gwych a bydd yn brofiad gwych i’r holl chwaraewyr.”

Fe fydd Ryan Giggs, sydd wedi’i benodi yn lle Chris Coleman, hefyd yn mynd â’i dîm i Gwpan China ym mis Mawrth.