Fe allai tîm pêl-droed Caerdydd agor y bwlch rhyngddyn nhw ac Aston Villa i bedwar pwynt yn y Bencampwriaeth pe baen nhw’n llwyddo i ennill yn Ipswich heno (7.45yh).

Gorffennodd Villa a Preston yn gyfartal 1-1 yn Villa Park neithiwr, sy’n golygu bod yr Adar Gleision bwynt o’u blaen yn yr ail safle ar 61 o bwyntiau, tra bod y Saeson yn drydydd gyda 60 o bwyntiau.

Mae hynny’n golygu bod Caerdydd yn aros yn y safleoedd dyrchafiad awtomatig, ac mae ganddyn nhw gêm mewn llaw tros Villa.

Wolves yw’r ffefrynnau i ennill y gynghrair o hyd, ond mae’r Adar Gleision yn mynd am drydedd buddugoliaeth o’r bron. Mae Ipswich wedi cael dwy gêm gyfartal yn olynol.

Fe fydd yr Adar Gleision heb yr ymosodwr Gary Madine, sy’n parhau i wella ar ôl torri ei drwyn.