Mae hogyn  o Ynys Môn yn dilyn llwybr cyn-chwaraewyr Cymru, Barry Horne a Carl Robinson, trwy chwarae i glwb Portsmouth ar arfordir de Lloegr.

Mae Dion Donohue, 24, yn hanu o Fodedern ac yn hapus ei fyd ar hyn o bryd.

Mor wahanol oedd pethau wedi iddo gael ei ryddhau gan Everton yn 2010, oherwydd fe gafodd gyfnod rhwystredig yn gorfod meddwl o ddifri’ am lle’r oedd ei yrfa’n mynd.

Bryd hynny y treuliodd gyfnod gyda Phorthmadog a Chaergybi, cyn setlo yn yr Oval gyda Chaernarfon am gyfnod – lle sgoriodd ddwsin o goliau l mewn 60 o gemau.

Dechrau swydd newydd

“Roedd fy mhartner yn symud i ardal Birmingham i ddechrau swydd newydd,” meddai Dion Donohue wrth golwg360, a fy mwriad i oedd ymuno efo hi ond dal chwarae i’r Cofis… ond, heb yn wybod i fi, mi oedd hi wedi danfon fy CV at glwb Sutton Coldfield!

“Wyddwn i ddim am y clwb, ond mi ges i gynnig treial ac mae’n rhaid fy mod wedi creu argraff achos mi ges i gytundeb gannddyn nhw.”

Fe chwaraeodd Dion Donohue 37  o weithiau  i Sutton Coldfield,  cyn i Chesterfield ofyn iddo fynd am dreial atyn nhw.

“Gefais gynnig treial o wythnos, ond mi gafodd o ei ymestyn i bedair wythnos, ac wedyn mi ges i gynnig cytundeb  o flwyddyn ym mis Awst 2015. Wedyn, yn Nadolig 2015, mi wnaethon nhw gynnig ymestyn y cytundeb i ddwy flynedd. Gennai  barch mawr i Chesterfield, y nhw wnaeth roi’r llwyfan i fi gael gyrfa ar y lefel yma…”

Cyfle da

Ond pan ddaeth yr alwad gan Portsmouth, roedd hwnnw hefyd yn gyfle na allai Dion Donohue ei wrthod.

“Mae Portsmouth yn glwb efo dipyn o hanes a thorfeydd gwych,” meddai. “Mae’r dorf, ar gyfartaledd, bron yn  18,000 y tymor yma, ac yn 2008/09. mi enillodd y clwb Gwpan FA Lloegr yn erbyn Caerdydd a cholli dwy flwyddyn wedyn yn erbyn Chelsea!

“Ar hyn o bryd rydan ni ar rediad gwael o ganlyniadau,” meddai’r Cymro, “ond, yn bersonol, dw i’n mwynhau fy hun.

“Mae’r rheolwr Kenny Jacket (cyn-chwaraewr Cymru) yn fy helpu i addasu  o fod yn chwaraewr canol cael i fod yn amddiffynnwr ar yr ochr chwith.”

Cymru a theulu

Er i Dion Donohue chwarae i dîm dan-18 Ysgol a Cholegau Cymru, dydi o ddim wedi cynrychioli Cymru ar unrhyw lefel yn oedolyn. Ond mae wedi bod yn rhan o dîm ynys Môn yng ngemau’r ynysoedd ar Ynys Wyth yn 2011 lle chwaraeodd tair gêm grŵp ac un gêm ail gyfle.

“Yn amlwg pe bai’r alwad i gynrychioli fy ngwlad yn dod, mi faswn i wrth fy modd,” meddai. “Fel nifer yng Nghymru, mi wnes i fwynhau’r Ewros yn 2016, roedd yn wych i weld pawb yn mwynhau – ond mae’n rhaid i fi ganolbwyntio ar sefydlu fy hun yn nhîm Portsmouth.

“Mae’n bechod bod Cymru’n bell o Portsmouth,” meddai wedyn. “Dw i’n trio mynd adra mor aml â phosib, dw i wrth fy modd yn mynd yn ôl i’r Oval i gyfarfod hen ffrindiau… dw i’n edrych am ganlyniadau fy nghyn-glybiau ac mae’n dda gweld Caernarfon yn mynd amdani a siawns am ddyrchafiad.”

Oddi ar y cae, mae Dion Donohue yn edrych ymlaen at ddod yn dad am y tro cyntaf.