Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gyda chlwb North Shore United yn nhalaith Wisconsin yn yr Unol Daleithiau.

Daw’r newyddion ddyddiau’n unig ar ôl i berchnogion Americanaidd y clwb, Steve Kaplan a Jason Levien ddod i gytundeb i reoli Stadiwm Liberty.

Mae gan North Shore fwy na 1,100 o chwaraewyr yn chwarae ar lefel hamdden, academi ieuenctid a rhaglenni hyfforddi, yn ogystal â thimau dan 23 a thimau merched.

Mae’r tîm wedi ennill pymtheg o bencampwriaethau taleithiol, a phedwar o’u chwaraewyr wedi’u dewis ar gyfer carfannau hyfforddi timau ieuenctid yr Unol Daleithiau.

Bellach, mae’r bartneriaeth newydd yn golygu y gallai nifer o’r chwaraewyr ymddangos yng nghrys Abertawe yn y dyfodol.

Y bartneriaeth

Bydd y bartneriaeth bedair blynedd newydd yn ffurfioli perthynas a gafodd ei sefydlu rhwng y clybiau yn 2010, ac fe fydd yn golygu bod yr Elyrch yn rhoi adnoddau hyfforddi i’r clwb ac yn anfon hyfforddwyr i’r Unol Daleithiau i weithio gyda’r chwaraewyr.

Fe fydd cyfleusterau’r Elyrch hefyd ar gael i’r chwaraewyr pe baen nhw’n dod i Abertawe, a bydd holl dimau North Shore United yn gwisgo cit yr Elyrch ar gyfer gemau.

Dywedodd pennaeth datblygu busnes rhyngwladol Clwb Pêl-droed Abertawe, Patrick Collins fod y bartneriaeth “yn gam pwysig” er mwyn codi proffil yr Elyrch ar draws y byd, yn ogystal â hyrwyddo athroniaeth hyfforddi’r clwb.

Ychwanegodd cyfarwyddwr hyfforddi North Shore United, Joe Hammes y bydd y bartneriaeth “yn cynnig mynediad dihafal i glwb a chanddo hanes rhyfeddol sy’n chwarae yn y gynghrair fwyaf cystadleuol yn y byd”.