Mae tîm pêl-droed Caerdydd wedi codi i’r ail safle yn y Bencampwriaeth ar ôl curo Middlesbrough o 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Peniodd y capten Sean Morrison y bêl i gefn y rhwyd ar ôl 34 munud i sicrhau’r triphwynt sy’n eu codi uwchben Derby ac Aston Villa.

Cyn heddiw, roedd Middlesbrough wedi ennill tair gêm allan o’u pedair gêm ddiwethaf oddi cartref.

Daeth cyfle cynnar i Junior Hoilett wrth iddo ergydio heibio i’r gôl, ond doedd hi ddim yn hir cyn i’r Adar Gleision osod eu stamp ar y gêm. Croesodd Hoilett i’r postyn pellaf wrth i Kenneth Zohore gael ei lorio, ond roedd Morrison yn barod i wyro’r bêl heibio i’r golwr Darren Randolph.

Fe allai Joe Ralls fod wedi dyblu mantais ei dîm, ond aeth ei ergyd yntau heibio i’r postyn hefyd.

Daeth cyfle i’r Saeson ar ôl 54 munud wrth i Stewart Downing symud tua’r gôl cyn taro’r bêl heibio i’r postyn unwaith eto.

Daeth cyfleoedd hwyr i Junior Hoilett a’r eilydd Loic Damour yn hwyr yn y gêm ond roedd Randolph yn barod gydag arbediadau i gadw llechen lân am y pymthegfed tro y tymor hwn.